Logo Camera Banana

Rhan o ymgyrch 'Yr Wyddfa Ddi-blastig' a arweinir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

YR HÊN GOEL

Mae croen banana yn bioddiraddio'n naturiol a chyflym yng nghefn gwlad.

Y REALITI

Mae croen banana yn gallu cymryd misoedd i fioddiraddio'n llwyr ac yn cael effaith negyddol ar dirwedd Eryri.

YN CYFLWYNO

Ffrwd fideo byw o groen banana yn bioddiraddio ar ucheldir Yr Wyddfa.

Llun diweddaraf o'r croen banana. Mae'r croen wedi duo a dechrau crebachu.

Pa mor hir gymerodd hi i'r banana fioddiraddio?

402 diwrnod

BETH YW CAMERA BANANA?

Fel rhan o'r ymgyrch i wneud Yr Wyddfa yn fynydd di-blastig cyntaf y byd, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn edrych ar y problemau gwastraff organig sydd ar y mynydd.

Tra bod gwastraff organig yn bioddiraddio, gall gymryd misoedd i wneud hynny yn yr awyr agored, a mewn mannau uchdeldirol. Gall croen banana altro pH pridd Yr Wyddfa, sy'n effeithio ar fioamrywiaeth.

Mae Camera Banana yn arbrawf (anwyddonol!) i gofnodi faint o amser mae croen banana yn ei gymryd i fioddiraddio ar ben mynydd prysuraf Cymru.

COFIWCH FOD CROEN BANANA

Ymysg yr eitemau o sbwriel sy'n cael eu casglu amlaf ar Yr Wyddfa—y bedwaredd mwyaf poblogaidd.

Yn cymryd misoedd i bioddiraddio mewn mannau ucheldirol.

Yn altro pH y pridd ac yn niweidiol i dirwedd Yr Wyddfa.

AWN A'N SBWRIEL ORGANIG GARTREF

EISIAU ENNILL PECYN O WOBRAU ECO-GYFEILLGAR?

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnal cystadleuaeth i gyd-fynd â phrosiect Camera Banana. Mae cystadleuwyr yn cael eu hannog i amcangyfrif y dyddiad bydd y croen banana yn pydru fel nad yw'n weladwy.

Bydd yr enillydd lwcus sy'n amcangyfrif y dyddiad cywir yn ennill pecyn arbennig llawn o wobrau eco-gyfeillgar.

I gystadlu, rhowch sylwad ar neges Facebook yr Awdurdod.